Ynglŷn â thîm cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth
Mae tîm Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth wedi’i leoli yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG). Mae’r tîm:
- yn gyfrifol am greu a sefydlu ‘safonau wedi’u cysoni’ Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer pob pwnc
- yn cefnogi’r gwaith o gysoni data ledled y Deyrnas Unedig
Mae ein gwaith yn ymwneud â darparu cyngor wedi’i deilwra a safonau wedi’u cysoni a chanllawiau (ddim ar gael yn Gymraeg) ynghylch sut y dylid casglu a chyflwyno data ar feysydd pwnc gwahanol i helpu i gefnogi cynhyrchwyr ystadegol. Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (ddim ar gael yn Gymraeg) yn argymell y dylai sefydliadau sy’n cynhyrchu ystadegau swyddogol ddefnyddio safonau wedi’u cysoni, ond ni chaiff hyn ei fandadu. Gall eraill hefyd ddewis defnyddio’r safonau hyn lle maent yn helpu gyda chysondeb, cymharedd a chydlyniaeth data ac ystadegau.
Gall cynhyrchwyr ystadegol ddefnyddio’r safonau wedi’u cysoni fel man cychwyn yn eu prosesau casglu data. Nod y safonau yw hyrwyddo cysondeb ar draws sefydliadau, nid gorfodi dulliau gweithredu unfath. Oherwydd yr hyblygrwydd hwn, gellir eu haddasu yn unol ag anghenion neu gyd-destunau penodol, gan gynnwys defnyddio ffynonellau data gweinyddol ar gyfer gwaith ymchwil. Drwy ddefnyddio safonau wedi’u cysoni, gall cynhyrchwyr ystadegol wneud y canlynol:
- cydweithio ag eraill mewn ffordd fwy cyson
- gwneud eu hystadegau yn fwy defnyddiol
- bodloni thema drawsbynciol y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (ddim ar gael yn Gymraeg), sef cydlyniaeth
Mae safonau wedi’u cysoni hefyd yn galluogi pobl i gymharu data a gasglwyd o setiau data gwahanol yn effeithiol ac yn gywir, gan gynnwys data o ymchwil sylfaenol a’r defnydd eilaidd o ddata gweinyddol at ddibenion ymchwil. Mae hyn yn golygu y gallwn ddeall beth mae’r data hynny yn ei ddweud wrthym, a’r hyn nad ydynt yn ei ddweud, yn haws. Mae hyn yn sicrhau bod ystadegau yn cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl er budd y cyhoedd. Mae’r gwaith yma yn cyd-fynd ag adroddiad y Tasglu Data Cynhwysol annibynnol yn 2021 (ddim ar gael yn Gymraeg), a argymhellodd y dylid adolygu safonau wedi’u cysoni ar gyfer grwpiau a phoblogaethau perthnasol yn rheolaidd, fel y rhai â nodweddion gwarchodedig. Yn benodol, mae’n cyd-fynd ag argymhellion y Tasglu (ddim ar gael yn Gymraeg) ynghylch sicrhau bod pobl yn gallu adnabod eu hunain a’u hamgylchiadau yn adnoddau a phrosesau casglu data’r Deyrnas Unedig.
Prif bwyntiau
Mae’r cyhoeddiad hwn:
- yn nodi’r meini prawf gwerthuso a ddefnyddir yn yr ymgynghoriad ar anghenion defnyddwyr am opsiynau ymateb ychwanegol mewn safon ethnigrwydd yn y dyfodol, gan ganolbwyntio ar sicrhau cysondeb â diben, y baich ar ymatebwyr a defnyddioldeb data
- yn esbonio sut y bydd y gwerthusiad yn arwain at restr fer o opsiynau ymateb ychwanegol posibl
- yn esbonio sut y bydd y rhestr fer a fydd yn deillio o dystiolaeth yr ymgynghoriad yn cael ei defnyddio ochr yn ochr â chanfyddiadau o’r Write-in Review i ddatblygu rhestr argymelledig o opsiynau ymateb newydd, gan gyfuno canfyddiadau’r ymgynghoriad sy’n benodol i wledydd unigol â thystiolaeth ysgrifenedig sy’n berthnasol i’r Deyrnas Unedig gyfan
- yn pennu’r fframwaith gwerthuso a’r dystiolaeth a ddarperir wrth gynnig y cwestiwn newydd ar ethnigrwydd – mae hyn yn cynnwys ymchwil ansoddol a meintiol a gynhaliwyd gan dîm Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth i ddangos dilysrwydd, derbynioldeb a defnyddioldeb
Datblygu safon wedi'i chysoni newydd ar gyfer ethnigrwydd
Mae tîm Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth wrthi’n diweddaru’r safon wedi’i chysoni ar gyfer ethnigrwydd (ddim ar gael yn Gymraeg) ar hyn o bryd. Nod y diweddariad hwn yw ei gwneud yn fwy cynhwysol fel ei bod yn adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth y Deyrnas Unedig ac yn diwallu anghenion defnyddwyr yn well. Ethnigrwydd yw un o ffrydiau gwaith y tîm Cysoni a flaenoriaethir, fel y nodir yng nghynllun gwaith tîm Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (ddim ar gael yn Gymraeg).
Nid oes un diffiniad unigol o ethnigrwydd. Mae’n gysyniad amlochrog a goddrychol. Er mwyn cynhyrchu ystadegau ystyrlon, mae’n gyffredin i grwpiau ethnig eang gael eu cynnig fel categorïau ymateb. Yna gofynnir i bobl benderfynu pa grŵp ethnig eang sy’n cyd-fynd orau â’r ffordd y byddent yn disgrifio eu hunaniaeth.
Mae ffyrdd amrywiol o ddiffinio grwpiau ethnig. Mae llawer o ddulliau gwahanol wedi cael eu defnyddio dros amser. Mae’r rhain yn cynnwys mesur ethnigrwydd gan ddefnyddio meini prawf fel:
- ble y cawsoch eich geni
- treftadaeth – diwylliant a ffyrdd o fyw a drosglwyddwyd o genedlaethau’r gorffennol
- diwylliant – gan gynnwys dathliadau, bwyd, gwerthoedd, steil ac elfennau eraill
- hunaniaeth genedlaethol – ymlyniadau a chysylltiadau â gwlad neu genedl
- crefydd – p’un a ydych yn ymarfer neu eich bod wedi cael eich magu mewn crefydd benodol
- lliw croen
- iaith
Nid yw ethnigrwydd person yn gysyniad sefydlog. Gall syniadau o ran beth sy’n gwneud grŵp ethnig newid yn unol â chyd-destun agweddau neu ddatblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol. Gall pobl ddewis sut maent yn diffinio eu hunain pan fyddant yn ateb cwestiynau am ethnigrwydd. Gallai eu hateb amrywio os gofynnir yr un cwestiwn iddynt ar adegau gwahanol neu mewn sefyllfaoedd gwahanol. Gall newid hefyd os gofynnir am eu hethnigrwydd at ddibenion gwahanol, neu os bydd pobl wahanol yn gofyn y cwestiwn. Gall y ffordd y mae rhywun yn dewis disgrifio ei hun newid dros ei oes hefyd.
Cynhaliwyd gwaith ymchwil helaeth a gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd mewn perthynas â grŵp ethnig ar gyfer cyfrifiadau diwethaf y Deyrnas Unedig:
- datblygu cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr (ddim ar gael yn Gymraeg)
- datblygu cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (ddim ar gael yn Gymraeg)
- datblygu cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2022 yn yr Alban (ddim ar gael yn Gymraeg)
Fodd bynnag, gwyddom fod diffiniadau o ethnigrwydd, terminoleg, anghenion data defnyddwyr, a’r ffordd y mae pobl yn meddwl am eu hunaniaethau ethnig eu hunain yn newid ac yn datblygu. Cafodd y rhan fwyaf o’r gwaith o ddatblygu cwestiynau ar gyfer y cyfrifiad diwethaf ei gwblhau cyn 2020. Mae llawer o bethau wedi newid ers hynny a all effeithio ar y ffordd y mae pobl yn teimlo am ethnigrwydd. Er enghraifft, mae pandemig COVID-19 a’r gwahaniaethau o ran canlyniadau a chyffredinrwydd COVID-19 rhwng grwpiau ethnig (ddim ar gael yn Gymraeg) wedi dangos bod angen data manylach ar ethnigrwydd. Hefyd, nododd argymhellion y Tasglu Data Cynhwysol (ddim ar gael yn Gymraeg) fod angen i’r cwestiynau ynghylch grŵp ethnig fod yn fwy cynhwysol er mwyn adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth yn well.
Bydd yr adolygiad hwn:
- yn ychwanegu at waith blaenorol a gwblhawyd fel rhan o’r broses o ddatblygu cwestiynau ar gyfer cyfrifiadau diwethaf y Deyrnas Unedig
- wedi ein galluogi i ystyried amrywiaeth o anghenion defnyddwyr ledled y Deyrnas Unedig ac yng Ngwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth, ac ystyried yr hyn a fydd ynghlwm â diweddaru’r safon er mwyn diwallu’r anghenion hyn
- yn gwella’r ffordd y caiff cysyniadau eu mesur, yn unol ag argymhellion y Tasglu Data Cynhwysol
- yn gwella’r ffordd y caiff amrywiaeth poblogaeth y Deyrnas Unedig ei chynrychioli yn y safon ethnigrwydd
Mae’r adolygiad hefyd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau i feithrin ymddiriedaeth â phobl sy’n cyflenwi data a phobl sy’n defnyddio data er mwyn gwella cynhwysiant.
Y gwaith a wnaed hyd yn hyn
Mae dwy brif ran i’r gwaith ar safon wedi’i chysoni newydd, sy’n canolbwyntio ar y canlynol:
- dyluniad y cwestiwn
- yr opsiynau ymateb sydd ar gael i ymatebwyr
Mae’r adolygiad hwn yn ceisio ehangu’r rhestr o opsiynau ymateb er mwyn adlewyrchu anghenion presennol defnyddwyr ac ymatebwyr yn well. Fodd bynnag, mae’r adolygiad hwn hefyd yn cydnabod na all dyluniad terfynol y cwestiwn gwmpasu pob grŵp ethnig posibl heb ddefnyddio opsiwn testun rhydd “Arall”. Rhaid cydbwyso manteision ychwanegu blychau ticio newydd yn erbyn anfanteision posibl, fel:
- cymhlethdod cynyddol
- yr effeithiau ar y gallu i gymharu data dros amser
- heriau o ran cyfuno data ac allbynnau
- cyfyngiadau gweithredu ymarferol
- baich ar yr ymatebydd
Rydym wedi cyhoeddi diweddariadau rheolaidd ar y gwaith hwn (ddim ar gael yn Gymraeg). Mae’r gwaith i ddatblygu safonau wedi’u cysoni terfynol ar gyfer ethnigrwydd yn mabwysiadu dull gweithredu ‘aur’ o ran Dylunio sy’n Canolbwyntio ar yr Ymatebydd (ddim ar gael yn Gymraeg). Rydym wedi amlinellu ein hymchwil o’r ‘Cam Darganfod’ (ddim ar gael yn Gymraeg) a gweithgareddau ymgysylltu ar gyfer adolygu’r safon wedi’i chysoni ar gyfer ethnigrwydd, ynghyd â’n canfyddiadau o’r gwaith hwnnw, mewn dau adroddiad (Cam 1 a Cham 2 (ddim ar gael yn Gymraeg)). Nododd yr adroddiadau hyn amrywiaeth o faterion mewn perthynas â’r safon wedi’i chysoni bresennol ac anghenion defnyddwyr am y safon. Mae hyn wedi llywio ein gwaith parhaus. Yn 2024, gwnaethom gyhoeddi’r dulliau ar gyfer adolygu ymatebion ysgrifenedig y blwch ticio “Arall”. Yn 2025, gwnaethom gyhoeddi gwaith o’n ‘cam Alffa’ mewn trosolwg o’n gwaith ailddylunio hyd yn hyn (ddim ar gael yn Gymraeg) ym mis Mehefin a chanfyddiadau o adolygiad o ymatebion ‘ysgrifenedig’ ym mis Medi.
Y cam datblygu nesaf
Un elfen bwysig o gam Alffa (ddim ar gael yn Gymraeg) oedd yr ymgynghoriad ar anghenion defnyddwyr am opsiynau ymateb ychwanegol mewn safon ethnigrwydd yn y dyfodol. Bydd ymatebion a gasglwyd drwy’r ymgynghoriad hwnnw a gweithgarwch ymgysylltu cyfochrog yn cael eu gwerthuso gan ddefnyddio’r meini prawf a’r camau a amlinellir yn y cyhoeddiad hwn.
Yna byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i lunio rhestr fer o flychau ticio newydd ar gyfer grwpiau ethnig. Unwaith y bydd y rhestr hon wedi cael ei chreu, byddwn yn ei hystyried ochr yn ochr â thystiolaeth o’r Write-in Review (ddim ar gael yn Gymraeg).
Mae lleihau’r defnydd o’r opsiwn “Arall” yn flaenoriaeth bwysig i’r adolygiad o’r safon wedi’i chysoni ar gyfer ethnigrwydd. Mae hyn oherwydd bod rhai grwpiau a chymunedau wedi nodi y gall dewis y categori “Arall” wneud i ymatebwyr deimlo fel pe baent yn cael eu hymyleiddio neu nad ydynt yn rhan o’r Deyrnas Unedig. Gall casglu data ar ffurf blwch testun agored hefyd achosi baich o ran adnoddau i dimau sy’n gweithio ar gasglu a dadansoddi data, er bod ymatebion ysgrifenedig yn rhoi’r cyfle i ymatebwyr ddisgrifio eu hunain yn llawn os na fyddant yn teimlo bod blwch ticio sy’n eu cynrychioli. Nid yw opsiynau ymateb ysgrifenedig ar gael i ymatebwyr bob amser felly. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod opsiwn “Arall” yn rhan bwysig o gwestiwn cynhwysol ar ethnigrwydd o hyd, a bydd yn parhau i ymddangos yn y safon wedi’i chysoni newydd. Mae angen ystyried ymdrechion i leihau’r defnydd o “Arall” ar y cyd ag anghenion defnyddwyr am ddata, a gasglwyd o’r ymgynghoriad a’n gweithgareddau ymgysylltu ar gyfer yr adolygiad hwn.
Caiff y rhestr fer o grwpiau ethnig o’r ymgynghoriad ei hadolygu ar y cyd â chanfyddiadau’r Write-in Review. Cynhelir profion a gweithgareddau ymgysylltu pellach, lle y bo angen, er mwyn deall safbwyntiau cymunedau, angen defnyddwyr, a’r effeithiau posibl ar:
- ansawdd data
- cymharedd dros amser
- dichonoldeb gweithredol
Yr ymgynghoriad cyhoeddus ar anghenion defnyddwyr am opsiynau ymateb ychwanegol
Cynhaliwyd ein hymgynghoriad ar anghenion defnyddwyr am opsiynau ymateb ychwanegol mewn safon ethnigrwydd yn y dyfodol rhwng 28 Hydref 2025 a 4 Chwefror 2026.
Cyfyngwyd cwmpas yr ymgynghoriad i opsiynau ymateb ychwanegol, oherwydd derbyniwyd bod angen y categorïau presennol o hyd. Y dyluniadau cwestiynau diweddaraf ar gyfer casglu data ar ethnigrwydd a man cychwyn yr ymgynghoriad oedd cwestiynau Cyfrifiadau 2021 a 2022:
- y cwestiynau a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr (ddim ar gael yn Gymraeg)
- y cwestiynau a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2021 ar gyfer Gogledd Iwerddon (ddim ar gael yn Gymraeg)
- y cwestiynau a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2022 ar gyfer yr Alban (ddim ar gael yn Gymraeg)
Datblygwyd y cwestiynau hyn ar ôl adolygu ac addasu’r safon wedi’i chysoni flaenorol. Roedd y cwestiynau yn seiliedig ar gwestiynau Cyfrifiad 2011 ledled y Deyrnas Unedig. Gan fod Cysoni yn cefnogi prosesau casglu data yn y Deyrnas Unedig, ystyriodd yr ymgynghoriad geisiadau penodol ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd.
Mae’r meini prawf gwerthuso a nodir yn yr adran hon yn seiliedig ar ddulliau gweithredu sefydledig, gan gynnwys Adnodd Blaenoriaethu Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr (ddim ar gael yn Gymraeg) a dulliau o Gyfrifiad 2022 yn yr Alban (ddim ar gael yn Gymraeg). Mae’r meini prawf gwerthuso wedi cael eu hadolygu gan Banel Adolygu Sicrwydd Methodolegol (MARP) (ddim ar gael yn Gymraeg) allanol y SYG a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys Pwyllgor Cynghori ar Ddata Cynhwysol yr Ystadegydd Gwladol (NSIDAC) (ddim ar gael yn Gymraeg), llywodraethau datganoledig a’r SYG.
Crynodeb lefel uchel o’r broses werthuso
Mae’r dull gweithredu arfaethedig i werthuso’r angen am opsiynau ymateb ychwanegol ar gyfer y safon wedi’i chysoni newydd ar gyfer ethnigrwydd yn canolbwyntio ar dri maen prawf. Bydd canllawiau sgorio yn cyd-fynd â phob un o’r meini prawf. Defnyddir Panel Adolygu Cysoni Ethnigrwydd i sicrhau’r broses sgorio wrth werthuso’r blychau ticio y gofynnwyd amdanynt yn yr ymgynghoriad.
Mae’r tri maen prawf fel a ganlyn:
- Cryfder angen defnyddwyr
- Diffyg ffynonellau amgen
- Derbynioldeb, eglurder ac ansawdd data
Mae pob maen prawf wedi’i ddylunio i sicrhau bod tystiolaeth gadarn i gefnogi unrhyw ychwanegiadau at y safon ac y byddant yn cynhyrchu data sy’n gywir, yn berthnasol ac yn addas i ymatebwyr. Bydd y broses sgorio yn seiliedig ar asesiad trylwyr o’r dystiolaeth a gyflwynwyd drwy’r ymgynghoriad ynghyd â gweithgarwch ymgysylltu a gwaith ymchwil perthnasol arall.
Bydd y broses ganlynol yn dwyn ynghyd dystiolaeth o bob un o’r tri maen prawf mewn ffordd strwythuredig. Bydd hyn yn sicrhau bod unrhyw ychwanegiadau posibl at y safon wedi’i chysoni yn ystyrlon ac yn dderbyniol.
Camau gwerthuso
Cam 1
Maen prawf gwerthuso 1
Cryfder anghenion defnyddwyr am wybodaeth am grŵp ethnig.
Egwyddorion
- Cryfder yr angen at ddibenion monitro cydraddoldeb a datblygu polisïau.
- Cryfder yr angen at ddibenion dyrannu adnoddau a darparu gwasanaethau.
Bydd y broses asesu yn ystyried cryfder angen defnyddwyr am wybodaeth am bob grŵp ethnig y gofynnwyd amdano, wedi’i llywio gan y ddwy egwyddor hyn. Gyda’i gilydd, mae’r egwyddorion hyn yn sicrhau bod y gwerthusiad yn adlewyrchu polisi a phwysigrwydd gweithredol casglu data cadarn ar grwpiau ethnig. Caiff yr holl anghenion eraill a grybwyllwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad eu hystyried ar y cyd â’r ddwy egwyddor arweiniol hyn.
Disgwylir i’r ymgynghoriad ddarparu safbwyntiau gan amrywiaeth o grwpiau o ddefnyddwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys:
- awdurdodau lleol
- adrannau’r llywodraeth
- llywodraethau datganoledig
- grwpiau cymunedol
- academyddion
Mae’r grwpiau hyn wedi cael eu hannog yn weithredol i gyfrannu at y broses ymgynghori, a chaiff eu mewnbwn ei ystyried fel rhan o’r sylfaen dystiolaeth ehangach. Os bydd yr ymgynghoriad wedi nodi bod angen tystiolaeth bellach ar anghenion polisi, unwaith y bydd anghenion defnyddwyr a chymunedau wedi’u gwerthuso, gellir ystyried arolwg wedi’i dargedu.
Mae safbwyntiau cymunedau ac ymatebwyr yn rhan bwysig o’r sylfaen dystiolaeth a gasglwyd gan yr ymgynghoriad hwn. Er mwyn sicrhau hygyrchedd i bawb, ni fydd y broses o werthuso yn erbyn egwyddorion 1 a 2 yn ei gwneud yn ofynnol i unigolion fod wedi cyfeirio at brosesau neu bolisïau llywodraethol penodol er mwyn symud ymlaen i Gam 2. Lle bydd adborth mewn ymateb i’r ymgynghoriad yn dangos bod profiad bywyd neu anfantais yn effeithio ar amlygrwydd grŵp mewn prosesau gwneud penderfyniadau swyddogol neu wrth ddarparu gwasanaethau, ymdrinnir â hyn fel enghraifft o fynegi angen defnyddwyr. Diben hyn yw sicrhau nad yw llais y gymuned yn cael ei drin fel rhywbeth sydd ar wahân i’r maen prawf hwn ond ei fod, yn hytrach, yn cael ei integreiddio’n ystyrlon â’r ddwy egwyddor.
Bydd y dystiolaeth a gasglwyd o’r ymgynghoriad yn cael ei hadolygu a’i dilysu yn erbyn tystiolaeth ehangach i asesu’r angen am y data cyn i sgoriau gael eu neilltuo. Caiff sgôr o 0 (Isel), 1 (Canolig) neu 2 (Uchel) ei neilltuo ar gyfer pob egwyddor.
Mae’r broses sgorio ar gyfer egwyddor 1 yn ystyried tystiolaeth a graddau’r anfantais neu’r diddordeb polisi, neu’r ddau. Rhoddir sgôr uwch os bydd mwy o effaith neu ddiddordeb. Bydd tystiolaeth gan gymunedau sy’n nodi angen nas diwallwyd am brosesau monitro cydraddoldeb, profiadau o allgáu, neu fylchau mewn amlygrwydd yn cyfrannu at yr asesiad hwn lle y bo’n berthnasol.
Mae’r broses sgorio ar gyfer egwyddor 2 yn ystyried lefel yr angen neu’r diddordeb penodol mewn perthynas â darparu gwasanaethau, dyrannu adnoddau, neu’r ddau. Rhoddir sgôr uwch os bydd mwy o angen neu ddiddordeb. Bydd safbwyntiau cymunedau ar rwystrau o ran cael gafael ar wasanaethau, neu lle nad yw adnoddau yn cyrraedd grwpiau penodol, yn cyfrannu at yr asesiad hwn lle y bo’n berthnasol.
Bydd y Panel Adolygu Cysoni Ethnigrwydd yn sicrhau’r sgoriau. Bydd ceisiadau sy’n cael sgôr o 1 neu ddau ar gyfer y naill egwyddor neu’r llall yn symud ymlaen i Gam 2.
I helpu gyda’r adolygiad hwn, bydd y sgoriau a roddir ar gyfer y ddwy egwyddor yn cael eu hadio at ei gilydd er mwyn helpu i flaenoriaethu. Y grwpiau ethnig sydd â’r sgôr uchaf gaiff eu hadolygu gyntaf yng Ngham 2.
Cam 2
Maen prawf gwerthuso 2
Diffyg ffynonellau gwybodaeth amgen.
Egwyddorion
- Nid yw atebion ysgrifenedig yn ddigonol ar gyfer mesur y grŵp ethnig y gofynnwyd amdano.
- Nid yw cwestiynau casglu data eraill yn ddigonol fel procsi addas (er enghraifft, gwlad enedigol, crefydd neu hunaniaeth genedlaethol) ar gyfer y grŵp ethnig y gofynnwyd amdano.
Bydd Cam 2 yn asesu sut y caiff y grŵp ethnig y gofynnwyd amdano ei adlewyrchu yn y cwestiynau ar ethnigrwydd ar hyn o bryd ac a yw data tebyg yn cael eu casglu’n gyson drwy gwestiynau casglu data eraill. Os caiff data eu casglu drwy gwestiwn arall, nid yw’n eithrio grŵp ethnig rhag cael ei ystyried fel rhan o safon wedi’i chysoni newydd ar gyfer ethnigrwydd yn awtomatig, yn enwedig lle ceir tystiolaeth o angen cryf am ddata. Caiff hyn ei asesu gan ystyried y ddau beth canlynol:
- sut y caiff hunaniaeth ei mynegi a’i deall ymhlith cymunedau gwahanol
- y maen prawf gwerthuso nesaf ar dderbynioldeb ymatebwyr
Ar gyfer egwyddor 1 (nid yw atebion ysgrifenedig yn ddigonol ar gyfer mesur y grŵp hwn), defnyddir tystiolaeth o adolygiad o ddata cyfrifiad cyhoeddedig diweddaraf y Deyrnas Unedig. Bydd hyn yn cynnwys data o gyfrifiadau 2021 a 2022. Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried sut mae’r grŵp ethnig y gofynnwyd amdano yn ymddangos yn y data, gan gynnwys a yw ymatebwyr yn defnyddio categorïau “Arall” a pha gategorïau “Arall” penodol y maent yn eu dewis. Er enghraifft, a yw ymatebwyr yn nodi’r grŵp o dan gategorïau lefel uchel cyson fel “Asiaidd” cyn manylu o dan “Arall”?
Mae tystiolaeth o’n Write-in Review, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2025, yn rhoi gwybodaeth am achosion lle caiff opsiwn i ysgrifennu ymateb ei ddefnyddio’n aml gan grŵp penodol. Fodd bynnag, ni allai’r adolygiad hwn nodi grwpiau ethnig llai. Mae hyn naill ai oherwydd maint y boblogaeth neu am fod eu defnydd o opsiynau ymateb ac ymatebion ysgrifenedig yn anghyson. Bwriedir felly i’r broses o werthuso’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn erbyn yr egwyddor nad yw data o ymatebion ysgrifenedig yn ddigonol fel procsi olygu y gellir blaenoriaethu grwpiau pan fydd angen pendant am ddata amdanynt, ond eto nid ydynt yn ymddangos yn aml nac yn gyson mewn ymatebion ysgrifenedig.
Ar gyfer egwyddor 2 (nid yw cwestiynau casglu data eraill yn ddigonol fel procsi addas, er enghraifft, gwlad enedigol, crefydd neu hunaniaeth genedlaethol), aeth yr ymgynghoriad ati i gasglu adborth a cheisio barn am gwestiynau amgen a allai adlewyrchu’r grŵp ethnig y gofynnwyd amdano. Caiff adolygiad o’r broses o roi’r cwestiynau hyn ar waith, gan gynnwys cwestiynau am hunaniaeth ddiwylliannol fel hunaniaeth genedlaethol a chrefydd, ei gynnal ar draws prif arolygon Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (gan gynnwys rhai o Ogledd Iwerddon). Bydd yr adolygiad hwn yn cefnogi’r gwaith o werthuso tystiolaeth yn erbyn egwyddor 2, drwy asesu:
- a yw cwestiynau eraill am hunaniaeth ddiwylliannol yn cael eu rhoi ar waith mewn ffordd ddigon cyson i gipio’r grŵp ethnig dan sylw
- a oes angen opsiwn ymateb ar wahân yn y cwestiwn ethnigrwydd ei hun
Caiff ffynonellau data gweinyddol eu hystyried fel rhan o’r adolygiad hwn hefyd.
I werthuso tystiolaeth ar yr egwyddor hon ar gyfer argymhelliad a roddir ar waith ar draws Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth, mae’n bwysig ystyried y ffordd y gweithredir nifer o arolygon. Mae hyn yn golygu y bydd yr adolygiad yn mynd y tu hwnt i’r cwestiynau a ddefnyddiwyd yn flaenorol yng nghyfrifiadau’r Deyrnas Unedig. Bydd y rhestr o offerynnau ac arolygon casglu data a gaiff eu hasesu am y ffordd y maent yn rhoi cwestiynau ehangach ar hunaniaeth ddiwylliannol ar waith, yn ogystal â chanfyddiadau’r gwaith hwn, yn cael eu rhannu â’r Panel Adolygu Cysoni Ethnigrwydd. Bydd hyn yn llywio adolygiad y Panel o’r dystiolaeth yn erbyn yr egwyddor hon.
Caiff y dystiolaeth a gesglir ei hasesu ar gyfer cywirdeb a’i sgorio. Fel gyda Cham 1, caiff sgôr o 0 (Isel), 1 (Canolig) neu 2 (Uchel) ei neilltuo ar gyfer pob egwyddor.
Mae’r broses sgorio ar gyfer egwyddor 1 yn ystyried i ba raddau y mae pobl yn debygol o ysgrifennu’r ymateb hwn, ac a ydynt yn gwneud hynny’n gyson. Bydd llai o ddefnydd a defnydd llai cyson yn cael sgôr uwch.
Mae’r broses sgorio ar gyfer egwyddor 2 yn ystyried a oes procsis addas y gellir eu defnyddio i gipio data ar y grŵp. Bydd procsis sy’n llai effeithiol, neu ddim yn effeithiol o gwbl, yn cael sgôr uwch.
Bydd y Panel Adolygu Cysoni Ethnigrwydd yn sicrhau’r sgoriau a gaiff eu neilltuo. Bydd ceisiadau sy’n cael sgôr o 1 neu uwch ar gyfer y ddwy egwyddor yn symud ymlaen i Gam 3.
I helpu gyda’r adolygiad hwn, bydd sgoriau’r grwpiau ethnig y gofynnwyd amdanynt sy’n symud ymlaen i Gam 3 yn cael eu hadio at ei gilydd er mwyn helpu i’w blaenoriaethu. Y grwpiau ethnig sydd â’r sgôr uchaf gaiff eu hadolygu gyntaf yng Ngham 3.
Cam 3
Maen prawf gwerthuso 3
Derbynioldeb, eglurder ac ansawdd data.
Egwyddor
Mae ychwanegu’r blwch ticio neu’r derminoleg ddiwygiedig yn dderbyniol i ymatebwyr. Mae’r newid canlyniadol i’r safon casglu data yn glir o ran geiriad a chyd-destun (er enghraifft, categorïau nad ydynt yn cyd-fynd) ac yn darparu’r wybodaeth ofynnol i lefel dderbyniol o ran ansawdd.
Bydd ychwanegiadau y gofynnwyd amdanynt yn destun gwaith ymchwil ac ymgysylltu pellach er mwyn sicrhau bod dealltwriaeth dda o unrhyw effeithiau posibl ar gymunedau a chymharedd data dros amser. Mae hyn hefyd yn cynnwys profi blychau ticio gyda’r rhai na ddylent ei ddewis. Bydd y gwerthusiad yn defnyddio tystiolaeth o waith profi cwestiynau tîm Cysoni ethnigrwydd Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth, ynghyd â gwybodaeth o weithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae’n rhaid i’r safon derfynol fod yn addas i ymatebwyr a chael ei dylunio i gasglu data o ansawdd uchel. Ni ddylai opsiynau ymateb newydd ddrysu ymatebwyr na rhoi baich arnynt, oherwydd gallai hyn beryglu ansawdd y data. Rhaid i ddyluniad y cwestiwn hefyd gefnogi anghenion defnyddwyr o ran cymharedd data a rhaid i leoliadau casglu data allu ei roi ar waith yn ymarferol.
Bydd y dystiolaeth a gesglir yn cael ei hasesu ar gyfer cywirdeb a chaiff statws Coch, Melyn neu Wyrdd ei neilltuo iddi. Mae statws ‘Gwyrdd’ yn adlewyrchu tystiolaeth bod:
- y blwch ticio yn glir ac yn dderbyniol i ymatebwyr
- y blwch ticio yn casglu data ar gyfer pawb y mae wedi’i anelu atynt
- cytundeb cyffredinol ym mhob rhan o’r gymuned y dylid cynnwys blwch ticio
Mae statws Coch yn adlewyrchu’r gwrthwyneb. Byddai’r blwch ticio yn aneglur neu’n annerbyniol i ymatebwyr. Gall hefyd arwain at gasglu data o ansawdd gwael os bydd ymatebwyr wedi drysu o ran sut i ateb neu’n teimlo’n anghyfforddus yn dewis yr opsiwn newydd. Byddai cytundeb cyffredinol hefyd na ddylid ei gynnwys.
Bydd y Panel Adolygu Cysoni Ethnigrwydd yn sicrhau’r sgoriau a gaiff eu neilltuo yn seiliedig ar y dystiolaeth. Bydd grwpiau ethnig y gofynnwyd amdanynt sydd â statws Gwyrdd yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer y rhestr fer.
Cam 4: Llunio’r rhestr fer o grwpiau ethnig
Bydd opsiynau ymateb ychwanegol ar gyfer grŵp ethnig y gofynnwyd amdanynt sydd â statws Gwyrdd yn cael eu blaenoriaethu yn ôl eu sgoriau o Feini Prawf Gwerthuso 1 a 2. Mae’r cam hwn yn sicrhau bod angen cryf ymhlith defnyddwyr, a hynny at ddibenion polisi a gweithredol, yn cael ei ystyried ar y cyd â thystiolaeth o ffynonellau data amgen cyfyngedig a derbynioldeb ymatebwyr. Caiff y tri maen prawf eu hystyried gyda’i gilydd er mwyn trefnu’r rhestr fer, gan sicrhau bod unrhyw ychwanegiadau posibl at y safon wedi’i chysoni yn ddefnyddiol i ddefnyddwyr data ac yn dderbyniol i ymatebwyr. Bydd y Panel Adolygu Cysoni Ethnigrwydd yn goruchwylio’r broses o gymhwyso’r meini prawf hyn er mwyn sicrhau y defnyddir dull gweithredu teg a chyson. Dim ond grwpiau ethnig sy’n bodloni’r tri maen prawf gaiff eu cynnwys ar y rhestr fer.
Rydym yn cadw’r hawl i ailystyried ein dadansoddiad mewn ymateb i unrhyw dystiolaeth newydd arwyddocaol o ran anghenion defnyddwyr am opsiynau ymateb penodol. Byddai unrhyw dystiolaeth newydd yn cael ei thrafod â’r Panel Adolygu Cysoni Ethnigrwydd er mwyn penderfynu a oes angen dadansoddi ymhellach. Bydd hyn yn sicrhau bod penderfyniadau ynglŷn â ph’un a ddylid gwneud unrhyw waith ychwanegol yn cael eu gwneud mewn modd tryloyw.
Bydd y Panel Adolygu Cysoni Ethnigrwydd yn sicrhau bod canlyniad y gwerthusiad o’r ymatebion i’r Ymgynghoriad ar Gysoni Ethnigrwydd wedi cael ei gynnal mewn ffordd deg, gywir a thryloyw. Mae tîm Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth hefyd yn bwriadu ceisio adolygiad gan Bwyllgor Cynghori ar Ddata Cynhwysol yr Ystadegydd Gwladol sy’n adlewyrchu pwysigrwydd argymhellion y Tasglu Data Cynhwysol (ddim ar gael yn Gymraeg) i’r gwaith hwn.
Bydd y Pwyllgor Rhyngweinyddu (ddim ar gael yn Gymraeg), sy’n cynrychioli gwasanaethau ystadegol Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ymwneud â’r gwaith o gymeradwyo’r rhestr fer, a’r Ystadegydd Gwladol fel Pennaeth Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth fydd yn ei chymeradwyo’n derfynol.
Os na fydd Ystadegydd Gwladol neu Ystadegydd Gwladol Dros Dro mewn swydd pan wneir y gwaith hwn, bydd bwrdd a gynullir gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig, a gaiff ei rymuso i weithredu ag awdurdod yr Ystadegydd Gwladol, yn darparu’r gymeradwyaeth derfynol.
Llunio'r rhestr derfynol o grwpiau ethnig ychwanegol
Unwaith y bydd rhestr fer o opsiynau ymateb ychwanegol ar gyfer grŵp ethnig wedi cael ei llunio yn seiliedig ar yr ymgynghoriad gan ddefnyddio’r meini prawf gwerthuso, caiff y rhestr hon ei hadolygu ar y cyd â thystiolaeth o’r Write-in Review.
I lywio’r adolygiad o opsiynau ymateb ar gyfer ethnigrwydd yn y safon wedi’i chysoni bresennol, cafodd ymatebion ‘ysgrifenedig’ o amrywiaeth o ffynonellau data yn y Deyrnas Unedig eu dadansoddi. Nod yr adolygiad hwn oedd:
- asesu angen defnyddwyr am flychau ticio newydd a nodwyd yn ein gwaith blaenorol (ddim ar gael yn Gymraeg)
- ystyried anghenion ychwanegol na chawsant eu codi o’r blaen
- deall sut y caiff ymatebion ysgrifenedig eu defnyddio mewn cyd-destunau gwahanol a gan ddefnyddio dulliau casglu gwahanol
Ceir rhagor o fanylion am y dulliau mewn cyhoeddiad cynharach: “Review of the ethnicity harmonised standard: additional work to explore potential new response options” (ddim ar gael yn Gymraeg).
Nod y Write-in Review oedd casglu tystiolaeth ar anghenion defnyddwyr ochr yn ochr â’r dystiolaeth a gasglwyd drwy’r ymgynghoriad cyhoeddus. Mae ymatebion ysgrifenedig yn tynnu sylw at alw cryf am flychau ticio ychwanegol. Fodd bynnag, bydd yr ymgynghoriad yn cynnig dealltwriaeth ehangach o anghenion defnyddwyr, yn enwedig mewn perthynas â monitro grwpiau ethnig llai i gefnogi’r gwaith o ddatblygu polisïau a darparu gwasanaethau. Mae’r dull cyfunol hwn yn golygu y gellir meithrin dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o safbwyntiau cymunedau a thueddiadau sy’n dod i’r amlwg o ran hunaniaeth.
Y ddau ymateb ysgrifenedig a nodwyd amlaf ar draws y ffynonellau data oedd:
- “Ewropeaidd”
- “Pwylaidd”
Ym mhob un ond un o’r setiau data a adolygwyd, gwelwyd gostyngiad amlwg mewn amlder ar ôl y grŵp ethnig cyntaf neu’r ail a nodwyd o dan yr opsiynau ymateb “Arall”. Mae’r patrwm hwn yn awgrymu, o gymharu â’r ddau gofnod uchaf, mae ymatebion dilynol yn llai cyffredin a gall hyn adlewyrchu lefelau is o angen neu alw ymhlith ymatebwyr.
Gwnaethom adolygu’r pum ymateb ysgrifenedig a nodwyd amlaf ar draws yr 11 o ffynonellau data:
- ymddangosodd “Ewropeaidd” yn y pump uchaf mewn wyth set ddata
- ymddangosodd “Rwmanaidd” yn y pump uchaf mewn wyth set ddata
- ymddangosodd “Eidalaidd” a “Pwylaidd” yn y pump uchaf mewn chwe set ddata
- ymddangosodd “Ffilipinaidd” yn y pump uchaf mewn pedair set ddata
- ymddangosodd “Sbaenig neu Ladin Americanaidd”, “Nigeraidd”, “Sri Lancaidd”, “Timoraidd neu Ddwyrain Timoraidd” yn y pump uchaf mewn dwy set ddata
Ar y cam hwn, caiff y rhestr fer o opsiynau ymateb ychwanegol a chanfyddiadau’r Write-in Review eu harchwilio’n fanwl gan ddefnyddio tystiolaeth o ystyriaethau gweithredol ar draws prif arolygon Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth a’r Deyrnas Unedig. Mae hyn yn cynnwys tystiolaeth o’r cyfrifiadau, ynghyd â chanfyddiadau o waith profi ychwanegol gydag ymatebwyr lle y bo’n berthnasol.
Bydd hyn yn ein galluogi i asesu a yw ychwanegu pob opsiwn ymateb arfaethedig ar gyfer grŵp ethnig at y safon wedi’i chysoni yn ddichonadwy, yn ddefnyddiol ac yn dderbyniol yn ymarferol. Mae hefyd yn bosibl y bydd opsiynau ymateb ychwanegol arfaethedig ar gyfer grŵp ethnig yn cael eu heithrio o’r rhestr derfynol a argymhellir ar y cam hwn. Gall hyn ddigwydd os oes:
- tystiolaeth nad yw pobl eraill yn y gymuned yn adnabod y derminoleg arfaethedig, neu na fyddai pobl yn dymuno cael eu cynrychioli yn y ffordd honno
- cyfyngiadau gweithredol ar gasglu data sy’n golygu nad yw cynnwys yr opsiwn yn ddichonadwy
Bydd hyn yn sicrhau bod y set derfynol o grwpiau ethnig a fydd yn symud ymlaen fel yr argymhelliad terfynol yn seiliedig ar dystiolaeth, yn dderbyniol i ymatebwyr ac yn weithredol ymarferol.
Diben y cam hwn yw triongli:
- y grwpiau ethnig ar restr fer yr ymgynghoriad
- canfyddiadau o waith y Write-in Review
- ystyriaethau gweithredol, fel tarfu ar gyfresi amser data a chyfyngiadau o ran gweithredu
- unrhyw anghenion ehangach ychwanegol ymhlith defnyddwyr
- unrhyw dystiolaeth ychwanegol o rowndiau pellach o waith profi gydag ymatebwyr ar yr opsiynau ar y rhestr fer
Bydd y cam hwn yn cynnwys ystyried goblygiadau ymarferol y blychau ticio arfaethedig, yn unigol ac ar y cyd â’r opsiynau eraill a gyflwynwyd. Mae hyn yn cynnwys ystyried yr elfennau ymarferol pe bai’r gwerthusiad o’r ymgynghoriad a’r Write-in Review yn awgrymu bod angen llawer o flychau ticio. Er enghraifft, byddwn yn ystyried unrhyw groesbwynt a chysondeb posibl rhwng opsiynau ymateb arfaethedig, ac ymarferoldeb gweithredol ychwanegu opsiynau ymateb niferus. Gallai hyn gynnwys ystyried sut:
- y gallai’r safon wedi’i chysoni newydd amrywio rhwng dulliau ymateb
- i ystyried capasiti i brosesu a chodio ymatebion ysgrifenedig, mewn ffordd a fydd yn cynhyrchu allbynnau cyson a chydlynol ar draws dulliau
Gall y broses o driongli tystiolaeth amrywio yn dibynnu ar nifer y grwpiau ethnig sydd ar y rhestr fer o’r ymgynghoriad. Er enghraifft, bydd achos cryfach dros gynnwys grŵp ethnig ar y rhestr fer os ymddangosodd yn aml yn y Write-in Review hefyd. Mae ymddangos yn aml mewn ymatebion ysgrifenedig yn arbennig o bwysig, am ei fod yn dangos galw clir ymhlith ymatebwyr ac yn cefnogi’r nod o ddibynnu llai ar opsiynau ymateb “Arall”.
Caiff unrhyw benderfyniad i gynnwys grwpiau ethnig newydd ei lywio gan yr ymgynghoriad a chanfyddiadau’r Write-in Review. Er mai’r ymatebion i’r ymgynghoriad fydd prif sail y rhestr fer, mae canfyddiadau’r Write-in Review yn cynnig tystiolaeth ategol lle maent yn nodi ymatebion ysgrifenedig a ddefnyddiwyd yn gyson mewn prosesau casglu gwahanol. Ni fyddai lefel uchel o ddefnydd yn y Write-in Review yn unig yn arwain at gynnwys opsiwn yn awtomatig, a dim ond lle byddai’n briodol ac yn gymesur gwneud hynny y byddai unrhyw gynigion sy’n deillio o’r canfyddiadau hyn yn cael eu cynnwys.
Bydd pob ychwanegiad posibl, boed hynny o’r ymgynghoriad neu’r Write-in Review, yn cael ei bwyso a’i fesur yn erbyn ffactorau ehangach fel cyfyngiadau o ran lle yn y cwestiwn, angen defnyddwyr, ac effeithiau ar gyfres amser data. Caiff cyfyngiadau gweithredol eu hystyried drwy drafodaethau â thimau arolwg a chyfrifiad Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth, gan sicrhau bod unrhyw ychwanegiadau arfaethedig yn ddichonadwy o fewn offerynnau casglu data sefydledig. Mae’n bosibl hefyd y gwneir gwaith profi pellach gydag ymatebwyr wrth gyfuno canfyddiadau’r ymgynghoriad â thystiolaeth y Write-in Review a all arwain at ansicrwydd ynghylch sut y byddai grŵp ethnig arfaethedig yn gweithredu yn ymarferol. Gallai hyn gynnwys tystiolaeth bod risg y byddai ychwanegu opsiwn ymateb newydd ar gyfer grŵp ethnig yn eithrio pobl o’r gymuned. Er enghraifft, gallai hyn ddigwydd lle mae’r derminoleg yn aneglur, gallai arwain at gamddehongli neu ni chaiff ei chydnabod neu ei derbyn gan y rheini sy’n uniaethu ag ef.
Yn ymarferol, bydd y rhestr fer sy’n deillio o’r ymgynghoriad a’r Write-in Review yn cynrychioli tystiolaeth o angen defnyddwyr ac ymatebwyr am newid, tra bydd tystiolaeth gan dimau arolygon a chyfrifiad Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth yn cynrychioli’r cyfyngiadau gweithredol y mae newid yn bosibl ynddynt. Bydd y rhestr gyfunol derfynol yn adlewyrchu cydbwysedd yr ystyriaethau hyn.
Y broses ar gyfer datblygu’r rhestr derfynol
Bydd argymhellion ar gyfer opsiynau ymateb ychwanegol y safon wedi’i chysoni ar gyfer ethnigrwydd yn cael eu llywio gan dystiolaeth o’r ymgynghoriad a’r Write-in Review. Caiff y ffynonellau hyn eu hystyried gyda’i gilydd, a gwneir gwaith profi ac ymgysylltu pellach lle y bo angen. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall safbwyntiau cymunedau, anghenion defnyddwyr, a’r effeithiau posibl ar ansawdd data, cymharedd dros amser, a dichonoldeb gweithredol cyn i’r safon derfynol gael ei chyhoeddi.
Cymerir sawl cam i lywio’r gwaith hwn.
Cam 1
Cynhelir gwaith profi ychwanegol gydag ymatebwyr, gweithgarwch ymgysylltu ychwanegol â chymunedau, neu’r ddau, os bydd angen ar gyfer grŵp ethnig newydd penodol, gan gynnwys ymchwilio i dderbynioldeb.
Byddai gwaith profi ychwanegol yn cael ei gynnal lle bydd cyfuno’r rhestr fer o’r ymgynghoriad â chanfyddiadau’r Write-in Review yn arwain at gwestiynau ynghylch sut y byddai grŵp ethnig arfaethedig yn gweithredu yn ymarferol. Mae’r cam hwn yn benodol ar gyfer sefyllfaoedd lle mae ansicrwydd ynghylch a allai cynnwys grŵp ethnig newydd effeithio ar gywirdeb dulliau adrodd, eglurder cysyniadol neu dderbynioldeb cyffredinol. Mae hyn ar gyfer pobl sy’n uniaethu â’r grŵp ethnig newydd a’r rheini na ddylent ei ddewis. Mae’n ffordd o ehangu maen prawf gwerthuso 3 yr ymgynghoriad, gan ddarparu sicrwydd pellach pan fydd angen archwilio’n fanylach y rhyngweithiad rhwng y grwpiau ethnig a gynhyrchwyd gan y Write-in Review a’r rhestr fer o grwpiau ethnig o’r ymgynghoriad.
Cam 2
Cynhelir arolwg a gomisiynir ar gyfer defnyddwyr data a pholisi os bydd angen er mwyn meithrin dealltwriaeth bellach o’r angen am grŵp ethnig newydd. Gall cymuned fynegi angen ond mae’n bosibl na fydd defnyddwyr data yn ymdrin yn ddigonol ag ef i’w flaenoriaethu’n ddigonol.
Byddai’r arolwg hwn yn cael ei ddefnyddio mewn achosion lle mae llais y gymuned (a adlewyrchwyd ym maen prawf gwerthuso 1 yr ymgynghoriad) yn dangos bod angen canfyddedig cryf am opsiynau ymateb newydd ar gyfer grŵp ethnig ond mae tystiolaeth gan ddefnyddwyr data a pholisi yn gyfyngedig, yn aneglur neu’n anghyson o hyd. Bwriedir iddo hefyd helpu i gydbwyso sefyllfaoedd lle mae’r rhestr fer yn cynnig gormod o opsiynau ymateb newydd ar gyfer grŵp ethnig, a gall fod angen archwilio canlyniadau’r Write-in Review ymhellach er mwyn cyfiawnhau eu blaenoriaethu. Drwy’r arolwg hwn, gall defnyddwyr data a pholisi ddarparu gwybodaeth bellach am anghenion ymarferol, gan helpu i sicrhau bod yr argymhelliad terfynol yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn ddichonadwy o hyd.
Cam 3
Archwilio cyfyngiadau gweithredu o ran nifer yr opsiynau ymateb.
Ar y cam hwn, bydd asesiadau dichonoldeb yn ystyried a ellir cynnwys y set lawn o’r opsiynau ymateb ychwanegol cyfunol ar gyfer grŵp ethnig yn realistig ym mhrif arolygon Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ledled y Deyrnas Unedig a chyfrifiadau. Mae hyn yn arbennig o berthnasol pan fydd dulliau cwblhau papur neu ddyluniadau â chynllun sefydlog yn gorfodi terfynau llym ar nifer yr opsiynau ymateb. Os caiff nifer mawr o opsiynau ymateb newydd ar gyfer grŵp ethnig eu cynnig ar y rhestr fer o’r ymgynghoriad, bydd yr adolygiad hwn yn ystyried faint o le sydd ar gael, defnyddioldeb rhestrau hirach ac unrhyw risgiau i ansawdd y data. Gall y canfyddiadau ddangos mai dim ond y grwpiau â’r sgoriau uchaf y gellir eu cynnwys. Gallant hefyd ddangos na fydd o bosibl yn ddichonadwy cynnwys yr holl gynigion a fydd yn deillio o’r Write-in Review a rhestr fer yr ymgynghoriad os bydd cyfyngiadau gweithredol yn rhy gaeth.
Cam 4
Digwyddiadau bwrdd crwn gyda rhanddeiliaid pwysig i adolygu effeithiau ar gyfresi amser a dichonoldeb gweithredol.
Bydd y digwyddiadau bwrdd crwn hyn yn dwyn ynghyd randdeiliaid pwysig i ystyried goblygiadau ychwanegu’r opsiynau ymateb arfaethedig ar gyfer grŵp ethnig at y safon wedi’i chysoni o ran parhad cyfresi amser, cymharedd ac ymarferoldeb gweithredol ledled y Deyrnas Unedig. Bydd yr holl opsiynau ymateb newydd arfaethedig ar y rhestr gyfunol yn rhan o’r trafodaethau hyn. Gofynnir i randdeiliaid adolygu’r argymhellion sy’n dod i’r amlwg, gan gynnwys lle gall fod angen gwrthod cynigion er mwyn cynnal cydlyniad, dichonoldeb gweithredol, ac ansawdd data hirdymor.
Caiff yr argymhelliad terfynol ar gyfer yr opsiynau ymateb newydd ei sicrhau gan y paneli a’r pwyllgorau a ddefnyddiwyd yn ystod yr ymgynghoriad: y Panel Adolygu Cysoni Ethnigrwydd, y Pwyllgor Cynghori ar Ddata Cynhwysol yr Ystadegydd Gwladol (NSIDAC) a chymeradwyaeth gan y Pwyllgor Rhyngweinyddu (IAC).
Os na fydd Ystadegydd Gwladol neu Ystadegydd Gwladol Dros Dro mewn swydd pan wneir y gwaith hwn, bydd bwrdd a gynullir gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig, a gaiff ei rymuso i weithredu ag awdurdod yr Ystadegydd Gwladol, yn darparu’r gymeradwyaeth derfynol.
Beth sy'n digwydd nesaf
Dros y misoedd nesaf, byddwn yn dwyn ynghyd yr holl dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi penderfyniadau ar y safon wedi’i chysoni newydd. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’r ffordd y caiff hyn ei asesu mewn adroddiad penodol. Caiff y pecyn tystiolaeth hwn ei gyflwyno i’r byrddau sicrwydd a’r pwyllgorau llywodraethu perthnasol i’w hadolygu. Bydd eu cymeradwyaeth yn cefnogi’r argymhelliad ar gyfer safon wedi’i chysoni ddiwygiedig ar gyfer ethnigrwydd i’w chymeradwyo. Y dystiolaeth hon fydd y cam dadansoddol olaf cyn i’r safon newydd symud ymlaen i gael ei chymeradwyo a’i rhoi ar waith.
Mae’r tîm Cysoni yn disgwyl cyhoeddi’r rhestr argymelledig o opsiynau ymateb ar gyfer safon newydd yn hydref 2026. Bydd y safon ethnigrwydd ar-lein a fydd wedi’i phrofi’n llawn ar gael ar ddiwedd 2026. Yn dilyn hyn, bydd gwaith ar ddulliau casglu data eraill yn dechrau.
Argymhellir bod casglwyr data o bob rhan o Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth yn defnyddio’r safon wedi’i chysoni newydd ar gyfer ethnigrwydd, gan gynnwys timau sy’n gweithio ar gyfrifiadau’r Deyrnas Unedig yn 2031. Disgwyliwn i swyddfeydd y cyfrifiad ledled y Deyrnas Unedig ystyried y safon hon wrth ddatblygu eu cwestiwn yn y cyfrifiad. Disgwyliwn i’r cwestiwn perthnasol yn y cyfrifiad gyd-fynd â’r safon hon yng Nghymru a Lloegr. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda thimau’r cyfrifiad er mwyn deall eu gofynion ar gyfer y safon. Yn dibynnu ar anghenion defnyddwyr ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig, gellir cyflawni hyn drwy un fersiwn neu gyfres o gwestiynau wedi’u cysoni.
Cysylltu â ni
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y safon bresennol ar gyfer ethnigrwydd (ddim ar gael yn Gymraeg) neu’r safon newydd, cysylltwch â thîm Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth yn Harmonisation@statistics.gov.uk.
Dysgu mwy am Gysoni (ddim ar gael yn Gymraeg).