Diweddariad Ebrill 2026: Ymgynghoriad ar anghenion defnyddwyr am opsiynau ymateb ychwanegol mewn safon wedi’i chysoni ar gyfer ethnigrwydd yn y dyfodol

Crynodeb

Rhwng 28 Hydref 2025 a 4 Chwefror 2026, cynhaliodd Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ymgynghoriad i gasglu barn ynghylch a oes angen opsiynau ymateb blwch ticio ychwanegol ar gyfer safon wedi’i chysoni newydd ar gyfer casglu data ar ethnigrwydd (ddim ar gael yn Gymraeg). Mae’r ymgynghoriad yn rhan bwysig o adolygiad parhaus Tîm Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (ddim ar gael yn Gymraeg) o’r safon.

Bydd y diweddariad i’r safon wedi’i chysoni ar gyfer ethnigrwydd yn darparu canllawiau penodol ar ofyn am ethnigrwydd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Argymhellir y dylai casglwyr data o bob rhan o Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ddefnyddio’r safon wedi’i chysoni newydd ar gyfer ethnigrwydd, gan gynnwys timau sy’n gweithio ar y cyfrifiadau nesaf yn y Deyrnas Unedig.  Disgwyliwn i sefydliadau ystadegau’r Deyrnas Unedig ystyried y safon hon wrth ddatblygu cwestiynau, ac i’r cwestiwn perthnasol yn y cyfrifiad gyd-fynd â’r safon hon yng Nghymru a Lloegr. Yn dibynnu ar anghenion defnyddwyr ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig, gellir darparu hyn drwy un fersiwn neu gyfres o gwestiynau wedi’u cysoni. Byddwn yn parhau i weithio’n agos â thimau ledled y Deyrnas Unedig i ddeall eu gofynion o ran y safon.

Mae’r diweddariad hwn yn crynhoi pwy ymatebodd i’r ymgynghoriad, yn amlinellu sut y gwnaethom ymgysylltu â defnyddwyr yn ystod y cyfnod ymgynghori, ac yn nodi’r camau nesaf.

Hoffem ddiolch i bawb a roddodd eu barn i ni drwy ymateb i’r ymgynghoriad.

Ymatebion

Cawsom 1,433 o ymatebion i’r ymgynghoriad. Roedd y rhan fwyaf o’r rhain gan unigolion (1,320). Roedd y gweddill ar ran sefydliadau (113).

Gwnaethom ofyn i sefydliadau ddewis y sector a oedd yn berthnasol iddynt. Roeddent yn gallu dewis mwy nag un sector mewn ymateb i’r cwestiwn hwn. Y sector a ddewiswyd amlaf oedd “Y sector elusennol neu gymunedol” (54), yn dilyn hyn roedd “Llywodraeth leol neu ranbarthol” (30) ac yna “Arall” (12)

Nifer y sefydliadau a ddewisodd bob sector

SectorNifer
Y sector elusennol neu gymunedol54
Llywodraeth leol neu ranbarthol30
Arall12
Academaidd neu ymchwil11
Adran o lywodraeth y Deyrnas Unedig4
Llywodraeth ddatganoledig3
Bwrdd y GIG neu sefydliad iechyd3
Y sector masnachol neu breifat2
Corff cyhoeddus anadrannol neu un o asiantaethau'r llywodraeth2
Newyddiaduraeth neu'r cyfryngau1
Achyddol neu hanes teuluoedd0
Tai0
Gwasanaeth cyhoeddus (er enghraifft ysgol neu heddlu)0

Ymgysylltu â defnyddwyr

Gwnaethom hyrwyddo’r ymgynghoriad drwy amrywiaeth o sianeli drwy gydol y cyfnod ymgynghori. Cyhoeddwyd lansiad yr ymgynghoriad mewn:

Gwnaethom hefyd ofyn i’n rhanddeiliaid godi ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad drwy eu rhwydweithiau.

Ym mis Tachwedd 2025, cynhaliwyd gweminar gyhoeddus (ddim ar gael yn Gymraeg) a chymerodd rhanddeiliaid o sectorau amrywiol ran. Roedd y rhanddeiliaid hyn yn cynnwys cyrff cyhoeddus, elusennau a sefydliadau gwirfoddol, y byd academaidd a llywodraeth leol. Cafodd y weminar ei recordio ac yna’i rhannu ar YouTube.

Yn ogystal â hysbysu Grwpiau Seneddol Hollbleidiol perthnasol ac Aelodau Seneddol am yr ymgynghoriad, cymerodd cynrychiolwyr o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ran mewn Wythnos Dystiolaeth yn Senedd y Deyrnas Unedig ar 4 Tachwedd 2025. Gwnaethant ateb cwestiynau a hyrwyddo’r ymgynghoriad ymhlith seneddwyr, ymchwilwyr a llunwyr polisïau.

Gwnaethom rannu erthyglau mewn amrywiaeth o deitlau cyfryngau, blogiau, cylchlythyrau a fforymau, gan gynnwys postiadau ar StatsUserNetwork ac erthygl wadd ar wefan yr Ymddiriedolaeth Amrywiaeth (ddim ar gael yn Gymraeg).  Gwnaethom siarad am yr ymgynghoriad mewn digwyddiadau trydydd parti a gweminarau fel Data Bites (ddim ar gael yn Gymraeg) a seminar ar-lein y Gwasanaeth Gwybodaeth a Chuddwybodaeth Lleol (LKIS).

Gwnaethom ymgysylltu â Phenaethiaid Proffesiwn Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (ddim ar gael yn Gymraeg) ar draws adrannau’r llywodraeth drwy negeseuon e-bost a sesiynau siarad mewn cyfarfodydd ym mis Medi 2025, mis Hydref 2025 a mis Ionawr 2026. Cafodd yr ymgynghoriad ei hyrwyddo ymhellach i Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth drwy ddeunyddiau, ein presenoldeb yng nghynhadledd Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ym mis Tachwedd 2025, cylchlythyr Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth, a sianeli cymdeithasol Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.

Cyhoeddwyd cyfres o nodiadau atgoffa, gan gynnwys datganiad newyddion pellach, er mwyn rhoi gwybod i ddefnyddwyr am ddyddiad cau’r ymgynghoriad.

Cyd-destun y deyrnas unedig

O ystyried y 113 o ymatebion sefydliadol a gafwyd i’r ymgynghoriad, nododd 98 fod eu sefydliad yn cynrychioli Lloegr; roedd 28 yn cynrychioli Cymru, 27 yn cynrychioli’r Alban ac 20 yn cynrychioli Gogledd Iwerddon (gallai sefydliadau ddewis mwy nag un wlad).

Ar gyfer yr ymatebion unigol, gwnaethom ofyn “O ba ran o’r Deyrnas Unedig ydych chi’n ymateb?”. Yn yr achos hwn, nododd 1,213 Lloegr, nododd 71 yr Alban, nododd 27 Cymru, a nododd 5 Gogledd Iwerddon, ac ni wnaeth 4 ateb y cwestiwn.

Er mwyn sicrhau ein bod yn casglu’r amrywiaeth o safbwyntiau ledled y Deyrnas Unedig yn llawn, bydd ymatebion o bob gwlad yn cael eu dadansoddi ar wahân ac ar y cyd. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall ble mae anghenion defnyddwyr yn gyffredin a ble maent yn wahanol. Byddwn hefyd yn cynnal ymchwil ansoddol ddilynol ym mhob gwlad er mwyn sicrhau bod safbwyntiau a blaenoriaethau lleol ac anghenion sy’n benodol i’r cyd-destun yn cael eu deall a’u hadlewyrchu.

Y camau nesaf

Ni ddylai defnyddwyr ddefnyddio data a gyflwynir ar y cam hwn i ddod i gasgliadau am benderfyniadau ynghylch opsiynau ymateb ychwanegol ar y safon wedi’i chysoni ar gyfer ethnigrwydd.

Bydd ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu cymedroli fel yr amlinellir yn Atodiad B i’r ddogfen ymgynghori (PDF, 747KB). Yna byddant yn cael eu gwerthuso fel y nodir yn ein meini prawf gwerthuso. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad llawn ar yr ymgynghoriad ddiwedd yr haf yn 2026. Bydd yr adroddiad hwn yn cynnwys yr holl ymatebion ffurfiol i’r ymgynghoriad, ac enwau’r sefydliadau a ymatebodd.

Yn dilyn hyn, bydd tîm Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth yn cyhoeddi’r rhestr argymelledig o opsiynau ymateb ar gyfer y safon wedi’i chysoni newydd ar gyfer ethnigrwydd yn ystod hydref 2026. Disgwylir i’r safon wedi’i chysoni ar gyfer ethnigrwydd a fydd wedi’i phrofi’n llawn ar gyfer prosesau casglu data ar-lein gael ei chyhoeddi erbyn diwedd 2026.

27 Ebrill 2026

Rydym wedi cyhoeddi diweddariad ar yr ymgynghoriad hwn ar wefan Swyddogaeth Dadansoddi’r Llywodraeth:

Diweddariad Ebrill 2026: ymgynghoriad ar anghenion defnyddwyr am opsiynau ymateb ychwanegol mewn safon wedi’i chysoni ar gyfer ethnigrwydd yn y dyfodol